Mae'r iaith Gymraeg yn tarddu o'r iaith Celtec a oedd yn cael ei siarad ar draws Ewrop yn y cyfnod pan oedd y Celtiaid yn rheoli'r rhan fwyaf o'r cyfandir. Datblygodd dwy gangen o'r Gelteg a daw'r Gymraeg o'r gangen Frythoneg, mae’n perthyn yn agos at y Gernyweg a’r Llydaweg. Mae’n un o lawer o ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol Ewrop. Mae’r Gymraeg sy’n cael ei siarad heddiw wedi disgyn yn uniongyrchol o Gymraeg Cynnar, sydd wedi bod yn iaith ar wahân ers y chweched ganrif. Dyma’r hynaf felly o ieithoedd Prydain, ac mae’n un o ieithoedd hynaf Ewrop hefyd. Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Prydain dechreuodd y Gymraeg gael statws swyddogol yn nheyrnasoedd Cymru. Parhaodd hynny tan oresgyniad y Normaniaid. Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn 1282, datblygodd y syniad mai Ffrangeg a Saesneg oedd ieithoedd busnes a masnach yng Nghymru. Yn ystod y 14eg a'r 15fed ganrif gwelwyd y Saesneg yn cael ei defnyddio'n amlach at ddibenion swyddogol, datblygiad a fyddai'n bygwth statws y Gymraeg. Cafodd yr iaith ergyd ym 1536 pan baswyd Deddf Uno Cymru a Lloegr gan Harri'r V111 gan ddiddymu cyfraith Hywel Dda. Daeth Saesneg yn iaith swyddogol ar Gymru yn ogystal â Lloegr ac nid oedd hawl gan unrhyw un oedd yn siarad Cymraeg gael swydd swyddogol. Yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd, paswyd deddf ym 1549 a olygai mai Saesneg oedd iaith gwasanaethau crefyddol. Serch hynny, cafwyd cyfieithiad Cymraeg o'r beibl ym 1588 rhag i'r Cymry droi'n ôl at Babyddiaeth. Roedd hyn yn gyfraniad arwyddocaol iawn i sicrhau parhad yr iaith. Ym 1847 cyhoeddwyd Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar addysg yng Nghymru. Yn sgil yr Adroddiad penderfynwyd mai Saesneg fyddai iaith yr ysgolion a chosbwyd plant am siarad Cymraeg, dyma gyfnod y 'Welsh Not'. O ganlyniad, datblygodd meddylfryd mai drwy'r Saesneg oedd dod ymlaen yn y byd. Cafodd yr adroddiad effaith fawr ar hunanhyder a hunan barch y Cymry. Fe'i adnabyddir hyd heddiw fel 'Brad y Llyfrau Gleision'. Ar ddechrau'r 19eg ganrif credid bod 70% o'r boblogaeth yn siarad cymraeg yn unig, 10% yn ddwyieithog ac 20% yn uniaith Saesneg. Erbyn diwedd y ganrif dim ond hanner y boblogaeth oedd yn medru'r Gymraeg. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd bron hanner poblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Yn ôl Cyfrifiad 1911 roedd bron i filiwn o bobl yn eu hystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg. Ers hynny, syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyson tan yn weddol ddiweddar, am nifer o resymau gwahanol, fel: - patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i’r trefi i chwilio am waith
- mewnfudiad siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig
- mwy a mwy o gyfryngau newyddion ac adloniant drwy gyfrwng y Saesneg
- cymdeithas yn tyfu’n fwy seciwlar, a lleihad yn nylanwad y capeli oedd wedi bod yn ganolbwynt i gymaint o weithgareddau traddodiadol Gymraeg
Arweiniodd y ffactorau hyn gyda’i gilydd at ddirywiad yr iaith mewn nifer o gymunedau a fu unwaith bron yn gwbl Gymraeg eu hiaith. Erbyn 1991, er bod y nifer o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith yn dal dros hanner miliwn (508,098), roedd hyn yn cynrychioli 18.7% yn unig o’r boblogaeth. Ers hynny, fodd bynnag, yn ôl Cyfrifiad 2001, mae Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, sy’n groes i’r tueddiad ers dechrau’r ganrif ddiwethaf. Yn fwyaf arwyddocaol, cafwyd cynnydd yn y niferoedd a’r ganran o bobl ifanc sy’n gallu siarad yr iaith. Mae’r rhan fwyaf o’r datblygiadau sydd wedi arwain at yr adfywiad yn yr iaith wedi digwydd dros y 30 mlynedd diwethaf. Dyma rai ohonynt: - twf aruthrol yn y niferoedd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg
- ymgyrchu brwd gan unigolion a grwpiau o blaid hawl siaradwyr Cymraeg i gael defnyddio’r iaith yng Nghymru
- sefydlu S4C yn 1982, sef sianel deledu Gymraeg ei hiaith, yn ogystal â 120 awr o raglenni Cymraeg ar BBC Radio Cymru
- fframwaith gref o ddeunydd ysgrifenedig, clywedol a gweledol – yn llyfrau, cylchgronau, papurau newydd, fideos ac yn y blaen
- apêl yr iaith ar gynnydd oherwydd y sylw rhyngwladol a’r gwobrau a enillwyd gan sêr y byd adloniant ym meysydd canu gwerin, pop a roc a chantorion clasurol
- y gynhaliaeth ariannol a roddwyd gan y llywodraeth ganol yn ystod y 1980au i sefydliadau oedd yn hybu neu cefnogi’r iaith, a hefyd i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg – arian sydd bellach yn cael ei rannu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
- pasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a sefydlodd yr egwyddor fod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, digwyddiad allweddol yn hanes yr iaith.
Mae ewyllys da tuag at yr iaith yn parhau i gryfhau, ac mae defnydd cynyddol yn cael ei wneud ohoni mewn llawer maes. Erbyn hyn, mae manteision economaidd defnyddio’r iaith yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr a gweithwyr, a sgiliau siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn cael eu gweld yn fanteisiol neu’n gymhwyster hanfodol. Yn nhermau gwleidyddiaeth, mae’r iaith Gymraeg bellach yn mwynhau cefnogaeth traws-bleidiol eang, ac mae’n iaith swyddogol yng ngweinyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Yn gynyddol, daeth dwyieithrwydd yng Nghymru i’w dderbyn fel rhywbeth cwbl naturiol a normal – fel y mae wrth gwrs yn y rhan fwyaf o Ewrop a thu hwnt. Cewch fwy o wybodaeth am hanes Cymru a hanes yr iaith ar wefan BBC Cymru. http://www.bbc.co.uk/cymru/hanescymru/ |